Gwybodaeth Gyffredinol

Actor yw Ieuan Rhys sy’n gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Ers iddo droi’n actor ym 1983 mae gwaith Ieuan wedi bod yn amrywiol i ddweud y lleia. Ym myd teledu mae e wedi gweithio fel cymeriad cyson yng nghyfres sebon y BBC Pobol y Cwm, cyflwyno gem deledu Sion a Sian i HTV. Mae e wedi chwarae carcharor oedd yn hoff o drawswigo yn y gyfres Diamond Geezergyda David Jason ac fel Crabtree ym mhenod The Idiot’s Lantern o’r gyfres Doctor Who gyda David Tennant.Bu’n chwarae rhan De’Rossi yn y gyfres DaVinci’s Demons i gwmni Starz ac hefyd fel Mr Eurig Bell yn Gwaith/Cartref i Fiction Factory

Mae e hefyd yn actor Shakesperaidd gyda rhannau mewn nifer o gynhyrchuiadau gan gynnwys cynhyrchiadau Cymraeg a Saesneg o Hamlet o dan gyfarwyddyd y diweddar Michael Bogdanov. Mae’n adnabyddus hefyd am ei waith mewn sioeau cerdd a chafodd adolygiadau clodwiw am ei bortread o Alfred Doolittle yng nghynhyrchiad Bogdanov o My Fair Lady. Bu’n teithio Prydain mewn sawl cynhyrchiad gan gynnwys Romeo a Juliet, The Government Inspector ac am gyfnod gyda’r National Theatre mewn cynhyrchiad o People gan Alan Bennett.

Mae ei waith ar ffilm yn cynnwys y ffilm bytholwyrdd gyda Hugh Grant The Englishman Who Went Up A Hill But Came Down a Mountain.

Mae Ieuan hefyd wedi perfformio mewn pantomeimiau dros Gymru gyfan ac hefyd mewn sawl theatr yn Lloegr.

Cyhoeddwyd ei hunangofiant gan Y Lolfa yn Hydref 2013 (Gweler Dolennau)

Am ragor o fanylion defnyddiwch y dewislen…….

General Information

Ieuan Rhys is an actor who works in both English and Welsh.

Since becoming an actor in 1983 Ieuan’s work has been varied to say the least. In television he has worked as a soap regular in the BBC’s Pobol y Cwm, presented a game show for HTV – Sion a Sian, played a cross dressing convict alongside David Jason in Diamond Geezer and Crabtree, a police heavy in The Idiot’s Lantern episode of Doctor Who with David Tennant as the Time Lord. He played the role of De’Rossi in Davinci’s Demons for Starz and now plays the straight talking Deputy Head - Mr Eurig Bell in the S4C school drama Gwaith/Cartref for Fiction Factory.

He is also a Shakespearian actor with many productions under his belt including an award winning back to back (Welsh & English) production of Hamlet directed by the late Michael Bogdanov. He is also noted for his roles in musical theatre and got rave reviews for his portrayal of Alfred Doolittle in Bogdanov’s production of My Fair Lady. He’s toured the UK in many productions including Romeo and Juliet, The Government Inspector and with The National Theatre in Alan Bennett’s People.

His Feature Film work includes the evergreen Hugh Grant movie The Englishman Who Went Up A Hill But Came Down A Mountain.

Ieuan has also appeared in many pantomimes all over Wales and England.

His autobiography was published by Y Lolfa in October 2013 (see Links)

For more information, please use the menu…